Y Cadfridog
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Meic Povey |
| Gwlad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Theatr yr Ymylon, Alan Clayton |
| Dechreuwyd | 1974 |
| Lleoliad y perff. 1af | Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth |
| Dyddiad y perff. 1af | 1 Mawrth 1978 |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan Gymraeg "cwbl afrealistig" o 1974 gan Meic Povey yw Y Cadfridog,[1], un o'i ddwy ddrama hir gyntaf.[2] Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol gan Theatr yr Ymylon ym 1978, cyn cael ei haddasu ar gyfer y teledu a'i darlledu ar S4C ym 1984. Anfonodd Povey y ddrama i gystadleuaeth Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor 1975, pan yn 25 oed, gan ddod yn ail i William R. Lewis, gyda'i ddrama Geraint Llywelyn.[1] Hyd 2026, ni chyhoeddwyd y ddrama.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Y Swyddog
- Y Soldiwr
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Digwydd y ddrama mewn "ystafell enfawr o dan y ddaear - canolfan (H.Q)" lle mae dau gymeriad gwrywaidd o Gymry yn cyd-fyw, sef "Y Swyddog" [y Cadfridog] ac "Y Soldiwr".[1] Tu allan mae "rhyfel" gan eu "gelynion" y "Saeson", yn ôl dehongliad John Gwilym Jones ym 1975.[1] Mae'r Cadfridog yn "ganol oed, yn biwis, sadistaidd, feddal, garedig, drist - yn wir, yn lwmp o anghysondeb" a'r Milwr "sy'n ymddangosiadol normal ar y cychwyn yn araf droi i "ildio", yn dod yr un mor biwis a sadistaidd a chreulon ddidostur ond yn awyddus i "ddianc"".[1]
Disgrifiodd Povey y ddrama fel "Dau gymeriad sydd ynddi, dau filwr wedi'u dal mewn byncar yn dilyn rhyfel niwcliar amhenodol, ac yn cael eu gorfodi i wneud y gora ohoni dan amgylchiadau dyrys".[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn ei feirniadaeth ar gyfer cystadleuaeth y "Ddrama Hir" yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor 1975, brawddeg gyntaf John Gwilym Jones oedd "'Dydw i ddim yn siŵr iawn am be' mae'r ddrama hon."[1] Cwestiynna sawl thema yn y ddrama fel "natur cariad?", "diffyg dealltwriaeth rhwng ifanc a chanol oed?", "anorfodrwydd ildio i rywbeth sy'n groes i'r foeseg gonfensiynol pan yw dyn yn ei gael ei hun mewn argyfwng clawstroffobig?" neu am "natur priodas?".[1]
Cyfaddefa Jones, er mai'r "llun" yw dau ddyn yn "cydfyw", nid am hynny mae'r ddrama. Try'r llun yn "symbol o berthynas arbennig".[1] Cafodd ei "swyno gan newydd-deb beiddgar y gwaith hwn yn Gymraeg" ond wedi ei hail ddarllen, "[ni] chefais yr un blas", ychwanegodd.[1]
"Mae'r sefyllfa gychwynnol yn gwbl ffantasïol, ond wedi ei derbyn [...] mae'r datblygiad, hyd y gwelaf i, yn seicolegol a rhesymegol deg [...] Mae ei ddyfeisgarwch yn creu sefyllfaoedd sydd yn greulon a doniol bob yn ail, ond i gyd yn sylfaenol drist".[1]
Wrth dafoli rhwng dramâu gorau'r gystadleuaeth, nododd John Gwilym Jones y byddai'n "synnu" i weld "unrhyw gwmni yn ddigon mentrus i ddewis [llwyfannu] 'Y Cadfridog' na 'Geraint Llywelyn'.[1] Awgrymodd hefyd mai annheg fyddai disgwyl i'r Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi'r ddwy ddrama.[1]
"Wrth edrych yn ôl, erys yr amheuaeth yn fy meddwl a fyddai'n gweithio heddiw" cyfaddefodd Meic Povey yn 2010.[2] "Beryg mai drama ei chyfnod ydoedd, ffrwyth llafur egin-ddramodydd oedd llawer iawn i'w ddysgu eto, ac a oedd o bosib yn malio mwy am y sioc a gâi'r gynulleidfa wrth ei gwylio na'r awydd i sgwennu rhywbeth o safon. Hoffwn i ddim gweld cynhyrchiad cyfoes ohoni, ddeuda i fel'na."[2]
Cyfaddefodd mai ym 1974 y cyfansoddodd y ddrama, "Prin oeddwn i allan o nghlytia", ychwanegodd.[2]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Mentrodd Theatr yr Ymylon i lwyfannu Y Cadfridog ym 1978, er bod Povey yn nodi yn ei hunangofiant bod "D. J. Thomas yn wrthwynebus gan yr ystyriai fod y dramâu [gan gynnwys Terfyn] yn rhai anweddus".[2] Dewisiwyd Meredith Edwards fel cyfarwyddwr gyda'r cast:
- Y Swyddog - Stewart Jones
- Y Soldiwr - Ian Saynor
Bu'r perfformiad cyntaf ar y 1 Mawrth 1978, yn Theatr y Werin, Aberystwyth.[2] "Cafodd y ddrama gryn sylw, yn bennaf am fod portreadu cariad agored rhwng dau ddyn, ar lwyfan Cymraeg ac mewn iaith dafodieithol, yn ddigwyddiad prin, os digwyddodd o gwbl cyn hynny", nododd Povey.[2]
Addasiadau
[golygu | golygu cod]Addaswyd y ddrama ar gyfer y teledu gan gwmni Alan Clayton ym 1984 a'i darlledu ar S4C o dan yr un enw. Clayton ei hun oedd yn cyfarwyddo gyda'r cast:
- Y Swyddog - Clive Roberts
- Y Soldiwr - Gwyn Vaughan Jones