Santes Tudful
| Santes Tudful | |
|---|---|
Santes Tudful, Eglwys Gadeiriol Llandaf | |
| Ganwyd | Unknown Aberhonddu |
| Bu farw | 480 Merthyr Tudful |
| Man preswyl | Gwent |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
| Dydd gŵyl | 23 Awst |
| Tad | Brychan |
Santes a roes ei henw i dref Merthyr Tudful oedd Tudful (bu farw c. 480).[1] Yn ôl rhai, merthyrwyd hi yno gyda'i brawd Rhun.
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Roedd Tudful y 23ydd un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog - gan ei bedwaredd wraig.[2] Priododd Cynged ap Cadell Deyrnllwg ac roedd hi'n fam i Brochwel Ysgithrog ac felly'n famgu i Tysilio.
Yn 480 roedd ar ei ffordd i ymweld â'i thad pan gafodd ei lladd "gan baganiaid" ger Merthyr Tudful.[1] Dyna un stori, ond gall 'merthyr' yn Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant)"; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Cynog, Merthyr Dyfan a Merthyr Mawr, a cheir merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[3] Gall fod yr hanes am ei lladd wedi datblygu fel ymgais i esbonio'r enw "Merthyr Tudful": h.y. stori etiolegol.
Bu'n santes boblogaidd gyda'r werin yn yr Oesoedd Canol ond ceisiodd yr Eglwys Gatholig wanychu cred y werin ynddi. Nid oes olion bellach o Ffynnon Dydfil a oedd unwaith i'w weld yn ne Heol y Ffynnon ym Merthyr Tudful.[4]
Ei dydd gŵyl yw 23 Awst.
- Afbais Cyngor Merthyr Tudful, gyda'r Santes Tudful
- Eicon o Santes Tudful, yn Eglwys Santes Tudful, yng nghanol tref Merthyr
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2001).
- ↑ T.T. Jones, "The daughters of Brychan", Brycheiniog 17 (1977)
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol III, tud. 2436.
- ↑ "Tydfil's Well, (site);ffynnon Dydfil". Coflein. Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. Cyrchwyd 11 April 2021.