Samhain
| Samhain | |
|---|---|
| Dyddiad | 1 TachweddNodyn:Infobox holiday/wd |

Mae Samhain (ynganiad Cymraeg: Saw-în) yn ŵyl Geltaidd a ddethlir ar 31 Hydref tan 1 Tachwedd o fewn diwylliannau Celtaidd. Mae'n ŵyl gynhaeaf gyda'i gwreiddiau hynafol mewn amldduwiaeth Geltaidd.
Golwg cyffredinol
[golygu | golygu cod]Marciwyd Samhain diwedd o'r cynhaeaf, y diwedd o'r "hanner golau" o'r flwyddyn a dechrau o'r "hanner tywyll" o'r flwyddyn. Dathlwyd yn draddodiadol dros sawl diwrnod, a chred llawer o ysgolheigion mai dechrau'r flwyddyn y Celtiaid oedd hi.[1][2][3] Mae rhai elfennau o Ŵyl y Marw ganddi, a chredodd y Celtiaid fod y llen rhwng y byd hwn a'r arallfyd yn denau yn ystod yr ŵyl hon. Roedd coelcerthi'n symbol mawr yn ystod y dathliadau; fyddai pobl a da byw redeg rhwng dwy goelcerth fel defod lanhau, a thaflir esgyrn o dda bwy sydd wedi marw i mewn i'r fflamau er mwyn cael gwared â lwc ddrwg.[4] Roedd yr arfer o wisgo gwisgoedd a masgiau Celtaidd yn gais i gopïo ysbrydion neu eu tawelu. Yn yr Alban, dynwaredwyd y meirw gan ddynion ifanc gydag wynebau mygydog neu wynebau tywyll, gan wisgo mewn gwyn.[5][6] Defnyddiwyd Samhnag - maip wedi'u cafnu allan a cherfio ag wynebau i wneud llusernau - i wardio yn erbyn niweidiol ysbrydion.[6]
Daeth yr ŵyl Geltaidd yn gysylltiedig â Dydd Gŵyl yr Holl Saint, dathliad Cristnogol, sydd wedi dylanwadu'n fawr iawn ar arferion seciwlar sydd bellach yn gysylltiedig gyda Chalan Gaeaf. Dethlir Samhain gŵyl grefyddol gan rai Neo-baganiaid o hyd.[2][7]
Yng Ngâl, mae cyfeiriad at Samonios ar Galendr Coligny. Parhaodd yr ŵyl i fod yn un bwysig yn Iwerddon yn y Canol Oesoedd, gyda chyfarfod ar Fryn Tara a oedd yn parhau am dridiau.
Ar ŵyl Samhain, roedd ffiniau rhwng y byd hwn a'r byd arall (yr Arallfyd) yn teneuo, neu'n diflannu. Mae hwn yn syniad sy'n parhau i raddau mewn rhai o arferion dathlu Gŵyl Calan Gaeaf, a hefyd yr ŵyl grefyddol Gŵyl yr Holl Eneidiau (Saesneg: All Hallows' Eve). Yng Ngwyddeleg a Gaeleg yr Alban, gelwir Gŵyl Calan Gaeaf yn Oíche/Oidhche Shamhna a Samhain, sydd hefyd yn fis Tachwedd yn yr Wyddeleg ac an t-Samhain yng Ngaeleg yr Alban.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nora Chadwick, The Celts (Llundain: Penguin, 1970)
- 1 2 Kevin Danaher, The Year in Ireland: Irish Calendar Customs (Dulyn: Mercier, 1972) tt.190-232
- ↑ F. Marian McNeill, The Silver Bough: a four volume study of the national and local festivals of Scotland (Glasgow: William MacLellan: 1957-1968), cyf.3, t.11
- ↑ The Celtic Consciousness, gol. Robert O'Driscoll (Efrog Newydd, Braziller, 1981): Anne Ross, "Material Culture, Myth and Folk Memory", tt.197-216; Kevin Danaher, "Irish Folk Tradition and the Celtic Calendar", tt.217-242
- ↑ The Gaelic otherworld: John Gregorson Campbell's Superstitions of the Highlands & Islands of Scotland and Witchcraft & second sight in the Highlands & Islands, gol. Ronald Black (Caeredin: Birlinn, 2005), tt.559-62
- 1 2 Bettina Arnold – Halloween Lecture: Halloween Customs in the Celtic World. Halloween Inaugural Celebration. Center for Celtic Studies (2001-10-31).
- ↑ Ronald Hutton, The Pagan Religions of the Ancient British Isles: Their Nature and Legacy (Rhydychen: Blackwell, 1991), tt.327–341
| |||||
