Neidio i'r cynnwys

Robot

Oddi ar Wicipedia
Robot
Delwedd:Toyota Robot at Toyota Kaikan.jpg, Artaic Mosaic Fabrication Robot.png
Mathpeiriant, endid deallusrwydd artiffisial Edit this on Wikidata
Yn cynnwysactifadydd, ffynhonnell ynni, cyfrifiadur, synhwyrydd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/06fgw edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Golygfa allan o'r ddrama R.U.R. (Rossum's Universal Robots) gan Karel Čapek.
Y BigDog: robot a rhagflaenydd System-gefnogi Bedair Coes (LS3)

Peiriant rhithwir neu fecanyddol ydy robot fel arfer, sydd wedi'i raglennu i wneud tasg neu dasgau arbennig a hynny ar ei ben ei hun. Mae'r robotiaid mwyaf clyfar yn ymddangos fel pe bai ganddynt nodweddiol dynol ac yn gallu meddwl drosto'i hun. Gellir didoli robotiaid i'r dosbarthiadau canlynol: robot dynoid dwy goes, robotiaid â rhagor o goesau e.e. System-gefnogi Bedair Coes, robotiaid ar olwynion neu robotiaid ehedog e.e. drôns. Gellir hefyd eu dosbarth yn ôl maint e.e. y nano-robotiaid meicrosgopig, neu yn ôl eu gwaith.[1] Mae'r car diyrrwr hefyd yn cynnwys elfennau o robotiaeth.

Yn y dechreuad...

[golygu | golygu cod]

Ers cychwyn gwareiddiad bu gan fodau dynol ddiddordeb i greu offer neu gyfarpar a allai ei gynorthwyo ac ysgafnhau ei faich. Aeth i'r pegwn eithaf pan geisiodd drefnu caethweision i wneud gwaith llafurus drosto, fel arfer y gwaith butraf ac anoddaf. Roedd creu peiriant megis olwyn ddŵr neu'r pwmp yn ei alluogi i wneud y gwaith ailadroddus hwn yn gynt a chynt ac yn fwy effeithiol. Wrth i dechnoleg ddatblygu daeth y peiriannau hyn yn fwy cymhleth ac yn fwy effeithiol fyth. Ar gyfer un dasg yn unig y crewyd y rhan fwyaf o'r peiriannau, ond dychmygai rhai beiriant tebyg i ddyn a allai droi ei law at unrhyw dasg dan haul.

Ymhlith y meddylwyr mawr yn y maes hwn mae: Leonardo Da Vinci yn yr 1490au a Jacques de Vaucanson yn 1739; cynlluniwyd nifer o beiriannau aml-dasg gan y ddau yma. Cynlluniwyd torpido wedi'i reoli gan donfeydd radio gan Nikola Tesla yn 1898 a rhoddodd Makoto Nishimura (yn 1929) nodweddion dynol megis dagrau i'r pen mecanyddol a alwodd yn "Gakutensoku".

Yr enw

[golygu | golygu cod]

Daw'r gair "robot" allan o ddrama o'r enw R.U.R. (Rossum's Universal Robots) a sgwennwyd gan Karel Čapek o Tsiecoslofacia yn 1920. "Llafurwr" oedd y gair gwreiddiol ganddo ond awgrymodd ei frawd Josef derm newydd: 'robot'.

Yn 1942 ysgrifennodd Isaac Asimov ffuglen-wyddonol a gynhwysodd "Tair Deddf Robotiaeth"; defnyddiwyd y rhain drachefn yn y ffilm I Robot yn 2004.

Llenyddiaeth Gymraeg

[golygu | golygu cod]
Rhan o'r erthygl 'Y gwas yn troi'n feistr' a gyhoeddwyd ym 1970 yn Y Cymro

Yn groes i'r arfer o roi nodweddion dynol ar robot, sgwennodd Owain Owain nofel Gymraeg o'r enw Y Dydd Olaf a roddodd nodweddion robotaidd ar bobl wedi'u cyflyru gan awdurdodau totalitaraidd.[2] Yn ei gyfres 'Nodion Gwyddonol' yn Y Cymro ym mis Mawrth 1970 mae Owain yn ateb y cwestiwn "A all y byd wrthsefyll robotiaid yn cymryd drosodd?" Enw'r erthygl oedd 'Y gwas yn troi'n feistr'. Ei ateb yw ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol, "gwahanol" nad yw'r Brawd Mawr yn ei ddeall. Dyma hefyd thema'r Dydd Olaf, sef pwer lleiafrifoedd i gadw 'cyfoeth amrywiaeth' y byd.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Four-legged Robot, 'Cheetah,' Sets New Speed Record". Reuters. 2012-03-06.
  2. [https://web.archive.org/web/20150317014937/http://www.ameliasmagazine.com/music/y-dydd-olaf-the-last-day-by-gwenno-saunders-an-interview/2014/11/03/ Archifwyd 2015-03-17 yn y Peiriant Wayback Gwefan Saesneg www.ameliasmagazine.com; cyfweliad gyda Gwenno Saunders] adalwyd 16 Mawrth 2015