Neidio i'r cynnwys

Pen-bre

Oddi ar Wicipedia
Pen-bre
Eglwys Sant Illtyd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,154 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6927°N 4.2841°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN4201 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddSir Gaerfyrddin
Etholaeth y DUNia Griffith (Llafur)
Map

Pentref mawr yng nghymuned Pen-bre a Phorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Pen-bre[1] (Saesneg: Pembrey).[2] Saif ar lan Bae Caerfyrddin, ychydig i'r gorllewin o dref Porth Tywyn (Tywyn Bach), rhwng aber Afon Llwchwr ac aber Afon Gwendraeth.

Ceir nifer o fryngeiri o Oes yr Haearn gerllaw, a chafwyd hyd i grochenwaith Rhufeinig yn y pentref.

Cysegrwyd yr eglwys (sydd wedi'i gofrestru'n Radd II*) i Sant Illtud, a cheir corlan anifeiliaid yn erbyn wal yr eglwys o'r 18g, ar ei gynharaf. Mae corff a changell yr eglwys yn perthyn i'r 13g a cheir ynddi arfbais deuluol y Butleriaid (le Boteler), sef tri chwpan - ar ffenest yn ne-ddwyrain yr eglwys.[3] Roedd Sant Illtyd yn sant ar nifer o'u heglwysi mewn tiroedd eraill a oedd yn eu meddiant gan gynnwys: Castell Dunraven ger Southerndown ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynwyd y tiroedd yma ym Mhen-bre i Syr John Butler gan Maurice de Londres yn 1128.[4] Roedd Arnold le Boteler yn un o gyndadau'r Arlywydd George W. Bush a'r Arlywydd James Abram Garfield Arlywyddion o'r Unol Daleithiau.

Yn ystod y ddau Ryfel Byd, adeiladwyd maes awyr yma - a ddefnyddir heddiw i rasio ceir. Mae'r traeth yn rhan o Barc Gwledig Pen-bre, sydd hefyd yn cynnwys Twyni Pen-bre. Bu llawer o fwyngloddio ar Fynydd Penbre.

Daw'r "Bre" yn yr enw Pen-bre o'r hen air Celtaidd am "garth".[5] Ystyr cyfoes "Pen-bre" felly yw "pen y garth".[6]

Llongddrylliadau

[golygu | golygu cod]

Gerllaw mae traeth Cefn Sidan, oedd yn enwog am longddrylliadau yn nyddiau'r llongau hwyliau. Yr enwocaf oedd llongddrylliad y llong La Jeune Emma yn 1828, pan foddwyd Adeline Coquine, nith 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre. Galwyd trigolion yr ardal a ddenai'r llongau i'r tir yn Wŷr y Bwyelli Bach.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. ↑ British Place Names; adalwyd 31 Hydref 2021
  3. ↑ Gwefan www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 16 Medi 2014
  4. ↑ E. Roberts ac H., A. Pertwee, St. Illtyd’s Church, Pembrey (1898)
  5. ↑  garth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2021.
  6. ↑  Etymology Of British Place-names.
  7. ↑ U.S. Department of the Interior[dolen farw]; adalwyd 16 Medi 2014

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]

Pen-bre a Phorth Tywyn Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback