Natalie Cole
| Natalie Cole | |
|---|---|
| Ganwyd | Natalie Maria Cole 6 Chwefror 1950 Los Angeles |
| Bu farw | 31 Rhagfyr 2015 Los Angeles |
| Label recordio | Atco Records, Elektra Records, Capitol Records, Rhino Entertainment Company |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | canwr, canwr-gyfansoddwr, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, cerddor jazz, actor ffilm, pianydd, actor teledu, ysgrifennwr, actor llais, artist recordio, actor, cerddor |
| Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr enaid, ffwnc |
| Math o lais | mezzo-soprano |
| Tad | Nat King Cole |
| Mam | Maria Cole |
| Gwobr/au | Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Person MusiCares y Flwyddyn, Grammy Award for Best Traditional Pop Vocal Album, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Merch y Flwyddyn y Ladies' Home Journal, Ellis Island Medal of Honor |
| Gwefan | https://officialnataliecole.com/ |
Cantores Americanaidd oedd Natalie Maria Cole (6 Chwefror 1950 - 31 Rhagfyr 2015) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, canwr-gyfansoddwr, peroriaethwr, cyfansoddwr caneuon, cerddor jazz ac actor ffilm. Roedd Cole yn ferch i'r canwr Americanaidd a'r pianydd jazz Nat King Cole. Cafodd gryn lwyddiant yng nghanol y 1970au fel cantores rhythm and blues gyda'r hits "This Will Be", "Inseparable" (1975), a "Our Love" (1977). Dychwelodd fel cantores bop ar yr albwm 1987 "Everlasting" ac ar glawr "Pink Cadillac" Bruce Springsteen.[1][2][3][4][5][6]
Fe'i ganed yn Los Angeles a bu farw yn Los Angeles o hepatitis C ac fe'i claddwyd ym Mharc Coffa Forest Lawn, California. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Massachusetts Amherst ac Ysgol Northfield Mount Hermon. [7][8]
Yn y 1990au, canodd pop draddodiadol a gyfansoddwyd gan ei thad, a arweiniodd at ei llwyddiant mwyaf, Unforgettable ... with Love, a werthodd dros saith miliwn o gopïau ac enillodd saith Gwobr Grammy. Gwerthodd dros 30 miliwn o recordiau ledled y byd.[9]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganed Natalie Cole yn Ysbyty Cedars of Lebanon yn Los Angeles, i gantores a phianydd jazz Americanaidd Nat King Cole a chyn-gantores Cerddorfa Duke Ellington, a'i magu yn ardal gyfoethog Hancock Park yn Los Angeles. O ran ei phlentyndod, cyfeiriodd Cole at ei theulu fel "y Kennedys du" a daeth i adnabod llawer o gantorion mawr y byd jazz, enaid a'r felan (blues). Yn 6 oed, canodd Natalie ar albwm Nadolig ei thad: The Magic of Christmas ac yn ddiweddarach dechreuodd berfformio fel unigolyn yn 11 oed.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Magwyd Cole i wrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth a oedd yn cynnwys gwaith Aretha Franklin a Janis Joplin. Ar ôl graddio ym 1972 dechreuodd ganu mewn clybiau bach gyda'i band, Black Magic. Cafodd gryn groeso gan y clybiau ar y dechrau oherwydd ei bod yn ferch i Nat King Cole, ond fe'i siomwyd i'r ymateb a gafodd pan gychwynodd ganu fersiynau clawr o R&B a chaneuon roc.
Gyda chymorth Chuck Jackson a Marvin Yancey, cyfansoddwyr a chynhyrchwyr caneuon, recordiodd mewn stiwdio yn Chicago a oedd yn eiddo i Curtis Mayfield. Arweiniodd ei thapiau demo at gontract â Capitol, a rhyddhawyd ei halbwm cyntaf sef Inseparable, a oedd yn cynnwys caneuon yn null Aretha Franklin.[10] Rhyddhawyd yr albwm yn 1975 a daeth yn llwyddiant ysgubol, diolch i "This Will Be", a ddaeth yn un o'r deg uchaf, ac enillodd Wobr Grammy am Berfformiad Lleisiol R&B Benywaidd Gorau. Daeth ei hail sengl, "Anghyffyrddadwy", yn boblogaidd hefyd. Cyrhaeddodd y ddwy gân rif un ar y siart R&B. Enillodd Cole yr Artist Newydd Gorau yn y Gwobrau Grammy am ei llwyddiannau, gan ei gwneud hi yr artist Affro-Americanaidd cyntaf i gyflawni'r gamp honno.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- 1975: Inseparable
- 1976: Natalie
- 1977: Unpredictable
- 1977: Thankful
- 1979: I Love You So
- 1980: Don't Look Back
- 1981: Happy Love
- 1983: I'm Ready
- 1985: Dangerous
- 1987: Everlasting
- 1989: Good to Be Back
- 1991: Unforgettable... with Love
- 1993: Take a Look
- 1994: Holly & Ivy
- 1996: Stardust
- 1996: A Celebration of Christmas (gyda José Carreras/Plácido Domingo)
- 1999: Snowfall on the Sahara
- 1999: The Magic of Christmas
- 2002: Ask a Woman Who Knows
- 2006: Leavin'
- 2008: Still Unforgettable
- 2008: Caroling, Caroling: Christmas with Natalie Cole
- 2010: The Most Wonderful Time of the Year
- 2013: Natalie Cole en Español
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau (1976), Person MusiCares y Flwyddyn (1993), Grammy Award for Best Traditional Pop Vocal Album (2009), Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Merch y Flwyddyn y Ladies' Home Journal (1978), Ellis Island Medal of Honor[11][12] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 13892630w, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015
- ↑ Rhyw: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 13892630w, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 123055512, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Gorffennaf 2024
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Natalie Cole". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalie Cole". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalie Cole". Internet Broadway Database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalie Cole". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalie Cole". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Dyddiad marw: "Natalie Cole". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalie Cole". Internet Broadway Database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalie Cole". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Natalie Cole". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Rhagfyr 2014
- ↑ Grwp ethnig: Jessie Carney Smith (yn en), Notable Black American Women, Wikidata Q105958972
- ↑ Galwedigaeth: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 123055512, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 20 Ebrill 2026 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 123055512, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 20 Ebrill 2026 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 123055512, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 20 Ebrill 2026
- ↑ Anrhydeddau: http://www.rockonthenet.com/grammy/newartist.htm. https://www.washingtonpost.com/archive/lifestyle/1978/06/15/women-of-the-year/8a16f6a7-62fc-4b00-bf6b-205e64368131/.
- ↑ "The Charlotte Symphony with Natalie Cole". Ovens Auditorium. 13 Ebrill 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2012. Cyrchwyd 13 Chwefror 2013. Unknown parameter
|deadurl=ignored (help) - ↑ Wynn, Ron. "Natalie Cole". AllMusic. Cyrchwyd 23 Medi 2018.
- ↑ http://www.rockonthenet.com/grammy/newartist.htm.
- ↑ https://www.washingtonpost.com/archive/lifestyle/1978/06/15/women-of-the-year/8a16f6a7-62fc-4b00-bf6b-205e64368131/.