Joseph Stiglitz
| Joseph Stiglitz | |
|---|---|
Joseph Stiglitz yn 2019. | |
| Ganwyd | Joseph Eugene Stiglitz 9 Chwefror 1943 Gary |
| Man preswyl | Gary, Indiana |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | economegydd, academydd, awdur gwyddonol, awdur ffeithiol, athro cadeiriol, critig, ysgrifennwr |
| Swydd | Chief Economist of the World Bank, Chair of the Council of Economic Advisers |
| Cyflogwr | |
| Prif ddylanwad | Paul Samuelson, Robert Solow, Henry George, John Maynard Keynes, John Kenneth Galbraith |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
| Mudiad | New Keynesian economics |
| Priod | Anya Schiffrin |
| Gwobr/au | Ysgoloriaethau Fulbright, Cymrodoriaeth Guggenheim, Cymrawd y Gymdeithas Econometrig, Medal John Bates Clark, H. C. Recktenwald Prize in Economics, doethur honouris causa o Brifysgol Carolina de Praga, Gwobr Economeg Nobel, Honorary doctor of the Catholic University of Louvain, Manpower-HEC price, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Gerald Loeb Award, honorary doctor of the Renmin University of China, Gwobr Economi Bydeang, honorary doctor of Paris Dauphine University, Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Daniel Patrick Moynihan, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, honorary degree of HEC Paris, Paul A. Volcker Lifetime Achievement Award for Economic Policy, Gwobr Heddwch Sydney, honorary doctorate at École Normale Supérieure de Lyon, honorary doctorate from Sciences Po, Gwobr Ryngwladol Catalwnia, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Darlith Fisher-Schultz, Grotius Lectures, Q121537149 |
| Gwefan | https://business.columbia.edu/stiglitz |
Economegydd ac academydd Americanaidd yw Joseph Eugene Stiglitz (ganwyd 9 Chwefror 1943). Enillodd Stiglitz Wobr Economeg Nobel, ar y cyd ag A. Michael Spence a George A. Akerlof, yn 2001 "am eu dadansoddiadau o farchnadau gyda gwybodaeth anghymesur".[1]
Ganed yn Gary, Indiana, Unol Daleithiau America, i deulu o Americanwyr Iddewig. Derbyniodd ei radd baglor o Goleg Amherst ym 1964 a'i ddoethuriaeth o Sefydliad Technoleg Massachusetts ym 1967. Addysgodd mewn sawl prifysgol o fri, gan gynnwys Yale, Harvard, a Stanford. Bu'n un o brif gynghorwyr polisi economaidd yr Arlywydd Bill Clinton, yn aelod (ac o 1995 yn gadeirydd) o Gyngor Cynghorwyr Economaidd yr Unol Daleithiau o 1993 i 1997, ac yn brif is-lywydd a phrif economegydd Banc y Byd o 1997 i 2000. Fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Columbia yn 2000. Gwasanaethodd yn llywydd ar y Gymdeithas Economaidd Ryngwladol o 2011 i 2014.[2]
Ymhlith ei lyfrau mae Globalization and Its Discontents (2002), The Roaring Nineties (2003), The Price of Inequality (2012), The Euro (2016), a People, Power, and Profits (2019).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "The Sveriges Riksbank Prize in Economic Sciences in Memory of Alfred Nobel 2001", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 4 Mehefin 2021.
- ↑ (Saesneg) Joseph E. Stiglitz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mehefin 2021.