John John Roberts (Iolo Caernarfon)
| John John Roberts | |
|---|---|
| Ffugenw | Iolo Caernarfon |
| Ganwyd | 1840 Llanllyfni |
| Bu farw | 5 Tachwedd 1914 Caerdydd |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, bardd, ysgrifennwr |
Bardd Cymraeg a Gweinidog Methodistaidd oedd John John Roberts (1840- 5 Tachwedd 1914), a adnabudwyd gan ei enw barddol, Iolo Caernarfon.[1] Roedd yn enghraifft o'r Bardd Newydd, ac mae'n un o'r enwau y cysylltir amlaf gyda'r mudiad hwnnw.[1][2][3]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd ef yn Tir-bach, Llanllyfni, i deulu o Amlwch ym Môn a ddaethai yno yn 1824 i chwilio am waith. Derbyniodd bron dim addysg ffurfiol fel plentyn ac roedd yn gweithio gyda'i dad yn chwarelau Dyffryn Nantlle yn gymharol ifanc.[1]
Dechreuodd bregethu yn 1867; mynychodd ysgol yng Nghlynnog ac oddi yno Coleg y Bala o 1868-1872. Daeth yn weinidog ar eglwys Trefriw yn 1873, ac ordeiniwyd ef yn 1874; gan briodi'r un flwyddyn. Symudodd yn 1879 i eglwys y Tabernacl, Porthmadog, gan aros yno nes ymddeol 1909. Bu farw 5 Tachwedd 1914, yn 74 oed. Roedd yn flaenllaw yn ei enwad gan gyflawni nifer o swyddogaethau cyhoeddus.[1]
Roedd yn adnabyddus hefyd yn ystod ei oes ei hun fel bardd, ac enillodd y Goron yn 1890 ac 1892.[1]
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Roedd Iolo Caernarfon yn fardd toreithiog a gyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth. Ynghyd â'i ddwy Goron enillodd "cryn nifer o wobrau am arwrgerddi a chyfansoddiadau barddonol eraill" yn ogystal â gwasanaethu fel beirniad ar bryddestau'r goron droeon.[1]
Cysylltir ei enw yn gryf gyda mudiad y Bardd Newydd, "un o'r cyfnodau mwyaf trychinebus yn hanes barddoniaeth Gymraeg",[4] a gan fod barddoniaeth Iolo Caernarfon yn nodweddiadol o gynnyrch y mudiad hwnnw tueddir i'w thrafod yng ngyd-destun y mudiad ehangach ar y cyfan. Defnyddir dyfyniad o un o bryddestau Iolo, 'Ardderchog Lu y Merthyri', gan Robert Rhys er mwyn dangos nodweddion y Bardd Newydd ac er mwyn i'r darllenydd "deall yn union beth oedd Morris-Jones yn adweithio yn ei erbyn."[2] Yng ngeiriau diplomataidd R. T. Jenkins roedd Iolo Caernarfon "efallai'n dangos mwy o grebwyll a meddylgarwch nag o awen", gan awgrymu mai fel pregethwr ac areithiwr yr oedd ar ei orau.[1]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Oriau yng Ngwlad Hud a Lledrith (1891)
- Ymsonau (1895)
- Myfyrion (1901)
- Breuddwydion y Dydd (1904)
- Cofiannau Cyfiawnion (1906)
- Crefydd a Chymeriad (1910)
- Cofiant Dr. Owen Thomas (1912)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 5 6 7 "ROBERTS, JOHN JOHN ('Iolo Caernarfon '; 1840 - 1914), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a llenor". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- 1 2 Rhys, Robert; 'Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg' yn Geraint Jenkins (gol; 1999) Gwnewch Bopeth yn Gymraeg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, tt.260-62
- ↑ Alun Llywelyn-Williams, "Y Bardd Newydd" yn Dyfnallt Morgan (gol.), Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, 1968. t268.
- ↑ Stephens, Meic (1997), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.36.