Neidio i'r cynnwys

Indiaid Cochion

Oddi ar Wicipedia
Indiaid Cochion
Enghraifft o:sarhad ethnig Edit this on Wikidata
Mathpobl groenliw Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/04hvvd edit this on wikidata

Hen enw ar frodorion Gogledd America yw Indiaid Cochion (Saesneg: Red Indians) neu groengochiaid[1] (Saesneg: redskins). Ystyrir bod yr enwau hyn yn ddifrïol ac yn dramgwyddus bellach.

Ansicr yw tarddiad yr ymadrodd "Indiaid Cochion". Ymddangosodd yn oes y Tair Gwladfa ar Ddeg, o bosib yn gyfieithiad o un o enwau'r brodorion ar eu hunain, neu'n fathiad gan yr Ewropeaid. Nid yw geiriadurwyr ychwaith yn cytuno at beth mae'r "coch" yn cyfeirio: lliw naturiol croen y brodorion, neu'r pigmentau a ddefnyddid gan ambell lwyth i liwio'r croen. Beth bynnag y geirdarddiad, trodd yn air difrïol wrth i'r gwynion ei ddefnyddio mewn modd hiliol yn y 19g a chychwyn yr 20g.[2] Cysylltir yr enw yn hanesyddol â'r gwobrau a gynigir am grwyn pennau'r brodorion.[3]

Ni ddefnyddir yr ymadrodd yn yr oes fodern, ond parheir mewn enwau nifer o dimau chwaraeon, gan gynnwys tîm pêl-droed Americanaidd y Washington Redskins.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Geiriadur yr Academi, [redskin].
  2. ↑ "What is the definition of redskin?". Oxford University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Medi 2016. Cyrchwyd 3 Medi 2016.
  3. ↑ Roxanne Dunbar-Ortiz (17 Medi 2014). "What "Redskins" Really Means: An Origin of Violence and Genocide". Beacon Press. Cyrchwyd 3 Medi 2026.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • C. Richard King, Redskins: Insult and Brand (University of Nebraska Press, 2016).