Helsinki
| Math | dinas, metropolis, bwrdeistref y Ffindir, dinas fawr, dinas â phorthladd |
|---|---|
| Poblogaeth | 686,595 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Daniel Sazonov |
| Cylchfa amser | UTC+2, EET, Amser Haf Dwyrain Ewrop, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffinneg, Swedeg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Uusimaa |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 214.42 km² |
| Uwch y môr | 17 metr |
| Gerllaw | Gwlff y Ffindir, Afon Vantaa |
| Yn ffinio gyda | Espoo, Vantaa, Sipoo |
| Cyfesurynnau | 60.1708°N 24.9375°E |
| Cod post | 00100–00990 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Helsinki City Board |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Helsinki |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Helsinki |
| Pennaeth y Llywodraeth | Daniel Sazonov |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | Gustav I o Sweden |

Helsinki (yn Ffinneg;
ynganiad ), neu Helsingfors (yn Swedeg y Ffindir;
ynganiad ) yw prifddinas Y Ffindir a'i dinas fwyaf. Mae'n borthladd pwysig ar lan ogleddol Gwlff y Ffindir, yn y Môr Baltig. Helsinki yw canolfan weinyddol a masnachol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 564,908 (31 Ionawr, 2007). Mae ardal drefol Helsinki yn cynnwys dinasoedd Espoo, Vantaa a Kauniainen, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Rhanbarth y Brifddinas, gyda phologaeth o tua 998,535. Yn ogystal mae Helsinki Fwyaf yn cynnwys rhai dinasoedd ychwanegol ac mae ganddi boblogaeth o 1,293,093 (2007), sy'n golygu fod un o bob pedwar Ffinn yn byw yn ardal Helsinki Fwyaf.
Mae ganddi nifer o adeiladau mewn gwenithfaen hardd, gan gynnwys y senedd-dŷ a'r eglwys gadeiriol (18g). Yn ogystal, ceir nifer o adeiladau diweddar a ystyrir yn enghreifftiau rhagorol o bensaernïaeth yr 20g. Ceir nifer o lynnoedd yn y ddinas ac o'i chwmpas. Sefydlwyd ei phrifysgol yn 1828.
Sefydlwyd Helsinki gan y brenin Swedaidd Gustavus I Vasa yn 1550 pan oedd y wlad ym meddiant Sweden. Roedd y rhan fwyaf o'r adeiladau wedi'u gwneud o bren. Dioddefodd y ddinas dân mawr yn 1808 a ddinistriodd rannau mawr ohoni a chafodd ei hail-adeiladau mewn canlyniad. Dan reolaeth Rwsia ar y Ffindir symudwyd y brifddinas o ddinas Turku i Helsinki yn 1812. Yn yr Ail Ryfel Byd dioddefodd bomio ar raddau sylweddol. Erbyn heddiw mae'n ddinas werdd, lewyrchus.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Eglwys gadeiriol
- Palas Gwydr
- Senedd
Pobl o Helsinki
[golygu | golygu cod]- Tove Jansson (1914-2001), arlunydd, ysgrifennwr, darlunydd, awdur plant, cartwnydd
- Alvar Aalto (1898-1976), pensaer, dylunydd, cynllunydd trefol
- Paavo Berglund (g. 1929), cerddor
- Esa-Pekka Salonen (g. 1958), cyfansoddwr
Dinaswedd
[golygu | golygu cod]Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffinneg, Swedeg, Saesneg, ayyb) Gwefan swyddogol y ddinas
