Digain
Gwedd
| Digain | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 g |
| Dinasyddiaeth | |
| Dydd gŵyl | 21 Tachwedd |
| Tad | Cystennin |
Sant Celtaidd cynnar oedd Digain (fl. dechrau'r 5g efallai).[1] Dethlir ei ddydd gŵyl ar 21 Tachwedd, yn flynyddol.
Traddodiad
[golygu | golygu cod]Yn ôl traddodiad roedd Digain yn fab i Gustennin Gorneu, brenin Brythonaidd Dyfnaint. Os gwir hynny, mae'n bosibl ei fod yn frawd i Erbin ac felly'n ewythr i Geraint fab Erbin, un o arwyr y Tair Rhamant, ond mae yna ansicrwydd ynglŷn am hynny.[2]
Digain a Llangernyw
[golygu | golygu cod]Dim ond un eglwys a gysylltir â Digain, sef eglwys plwyf Llangernyw (yn Sir Conwy). Yn ogystal â'r eglwys ceir Ffynnon Ddigain yng Nghoed Digain ger y pentref.[1]