Neidio i'r cynnwys

Diddymu caethwasiaeth

Oddi ar Wicipedia
Diddymu caethwasiaeth
"Am I Not a Man and a Brother?", Medal o 1787 a ddyluniwyd gan Josiah Wedgwood ar gyfer ymgyrch gwrth-gaethwasiaeth yng ngwledydd Prydain
Enghraifft o:mudiad cymdeithasol, mudiad gwleidyddol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebo blaid caethwasiaeth Edit this on Wikidata
Gwladsuppressfields=
Dynodwyr
Freebase/M/09p_m edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Argyfwng y Weriniaeth Americanaidd
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Diddymu caethwasiaeth oedd y mudiad i ddod â chaethwasiaeth i ben. Gellir defnyddio'r term hwn yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Yng ngorllewin Ewrop ac America, roedd diddymu caethwasiaeth yn fudiad hanesyddol a geisiodd ddod â masnach gaethweision yr Iwerydd i ben a rhyddhau pob caethwas. Bu'r ymgyrch i ddiddymu caethwasiaeth yn hir ac anodd, gydag unigolion, mudiadau a sefydliadau yn UDA a Phrydain yn gorfod brwydro’n galed i ddileu caethwasiaeth a sicrhau rhyddid i’r caethweision. Ymgyrchwyd, ysgrifennwyd llenyddiaeth, cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus, cyflwynwyd deisebau ac apeliwyd i’r Senedd er mwyn cael gwared ar y gyfundrefn a oedd wedi achosi cymaint o ddioddefaint. Daeth Rhyfel Cartref America rhwng 1861 a 65 yn rhyfel yn erbyn caethwasiaeth. Yn UDA, roedd unigolion fel William Garrison yn ymgyrchwyr adnabyddus, ac ym Mhrydain roedd Granville Sharp, Thomas Clarkson a William Wilberforce ymhlith arweinyddion yr ymgyrch.

Diddymwyr blaenllaw yn America

[golygu | golygu cod]

Erbyn dechrau’r 19eg ganrif sefydlwyd cymdeithasau gwrthgaethwasiaeth yn America. Ymhlith y rhai cyntaf roedd y Gymdeithas Gwladychiad Americanaidd a sefydlwyd yn 1817. Bwriad y gymdeithas oedd dychwelyd caethweision oedd wedi eu rhyddhau i Affrica. Ym 1821, prynodd asiantau a oedd yn cynrychioli’r gymdeithas dir yng Ngorllewin Affrica er mwyn creu gwlad newydd. Yn 1822 aeth pobl dduon rhydd draw i ymsefydlu yno ac erbyn 1847 ildiodd y gymdeithas reolaeth i weriniaeth annibynnol Liberia. Erbyn 1860 dim ond 15,000 o ddynion duon oedd wedi ymfudo i Affrica - nifer bach iawn o’i gymharu â nifer y genedigaethau ymysg y caethweision.[1]

Roedd gwleidyddion blaenllaw yn UDA yn cefnogi'r Gymdeithas - yn eu plith, James Madison, James Monroe, Henry Clay a Daniel Webster. Gwelai rhai'r mudiad fel cyfle i ryddfreinio pobl dduon tra bod eraill yn gweld y gymdeithas fel ffordd o gadw caethwasiaeth drwy gael gwared ar y bobl dduon rhydd a allai fod yn anodd eu rheoli, ac a allai achosi problemau.

Yn 1832 sefydlodd William Lloyd Garrison a’i ddilynwyr Gymdeithas Gaethwasiaeth Lloegr Newydd a’r flwyddyn flaenorol yn 1831 roedd Garrison wedi dechrau cyhoeddi papur newydd gwrth-gaethwasiaeth o’r enw ‘The Liberator’, a ddefnyddiai i frwydro yn erbyn caethwasiaeth. Yn 1833 sefydlodd dau fasnachwr cyfoethog o Efrog Newydd, sef Arthur a Lewis Tappan, grŵp tebyg a elwid yn Gymdeithas Gwrthgaethwasiaeth America. Roedd y gymdeithas yn gobeithio manteisio ar y cyhoeddusrwydd a roddwyd i waith William Wilberforce ym Mhrydain a arweiniodd at y llywodraeth yn diddymu caethwasiaeth drwy’r Ymerodraeth Brydeinig ym 1833. Erbyn canol y 1840au, roedd gan y mudiad tua 1,300 o gymdeithasau lleol a chyfanswm aelodaeth o 250,000.

Daeth cefnogaeth i ddiddymu caethwasiaeth oddi wrth bobl oedd yn cael eu denu at fudiadau diwygio eraill. Tueddai Diddymwyr ddod o deuluoedd crefyddol. Ymhlith cefnogwyr cynharaf eraill y mudiadau Diddymu roedd Americaniaid Affricanaidd rhydd oedd yn byw yn nhaleithiau’r Gogledd. Un o’r rhai enwocaf oedd Frederick Douglass, a oedd wedi bod yn gaethwas ac a ddihangodd, ac wrth ddarlithio ac ysgrifennu enillodd ddigon o arian i brynu ei ryddid. Roedd yn un o brif arweinyddion pobl dduon America yn ystod y 1850au ac fe'i gwahoddwyd i siarad mewn cyfarfodydd yn aml.[2]

Ymhlith y Diddymwyr blaenllaw eraill roedd Charles Sumner, Seneddwr gwyn a wnaeth sawl araith gyhoeddus yn erbyn caethwasiaeth; Sojourner Truth, a oedd yn siaradwr crefyddol a oedd yn areithio mewn llawer o gyfarfodydd y Diddymwyr, ac a oedd ei hun yn gaethwas a oedd wedi ffoi.[3]

Un o weithiau llenyddol enwocaf y 19eg ganrif a roddodd ddisgrifiad o natur greulon caethwasiaeth oedd nofel Harriet Beecher, Uncle Tom’s Cabin, a gyhoeddwyd yn 1852 ac a fu’n hollbwysig o ran peri i’r cyhoedd sylweddoli pa mor erchyll yw caethwasiaeth.[4] Cafodd y nofel ddylanwad ar gefnogwyr Diddymu yng Nghymru ble cafodd ei chyhoeddi o dan y teitl Caban F’ewythr Twm a chyhoeddwyd tair fersiwn ohoni yn y Gymraeg.[5] Roedd gan yr awdures, Harriet Beecher Stowe, gysylltiadau teuluol â Chymru hefyd gan fod ei chyndeidiau wedi ymfudo o Landdewi Brefi, Tregaron i America.

Erbyn y 1840au roedd diddymu caethwasiaeth wedi troi'n destun gwleidyddol yn ogystal â bod yn ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb. Gwelwyd gwleidyddiaeth fel yr unig ffordd o ddiniistrio caethwasiaeth, ond nid oedd y ddwy brif blaid yn America, sef y Chwigiaid a’r Democratiaid, yn fodlon dod yn rhan o’r drafodaeth. O ganlyniad, ffurfiodd rhai o’r diddymwyr yn y cyfnod hwn eu plaid eu hunain, sef y Blaid Rhyddid. Bu’r blaid newydd hon yn allweddol o ran sicrhau bod diddymu caethwasiaeth yn dod yn destun trafod yng ngwleidyddiaeth genedlaethol America. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at ryfel cartref.[6]

Diddymwyr blaenllaw yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru, un o gefnogwyr amlycaf y mudiad Diddymu oedd y radical Morgan John Rhys (1760-1804), o Lanbradach, Sir Forgannwg a gweinidog gyda’r Bedyddwyr.[7] Cefnogai ryddid yr unigolyn, ymgyrchai yn erbyn caethwasiaeth, a hyrwyddai rhyddid crefyddol a gwleidyddol wedi iddo gael ei ysgogi gan egwyddorion Rhyfel Annibyniaeth America a’r Chwyldro Ffrengig. Defnyddiodd ei allu i ysgrifennu fel cyfrwng i fynegi ei farn ar y materion yma gan gyhoeddi ei farn yn erbyn caethwasiaeth yn Y Cylch-grawn Cynmraeg, sef y cylchgrawn gwledidyddol cyntaf a gyhoeddwyd yn y Gymraeg ac a sefydlwyd gan Morgan John Rhys yn 1793.

Cyfieithiodd bamffled o’r Saesneg i’r Gymraeg o dan y teitl,’Dioddefiadau Miloedd lawer o Ddynion Duon mewn Caethiwed Truenus Yn Jamaica a Lleoedd eraill ble erfyniodd ar ei gyd-wladwyr i beidio â phrynu nwyddau fel siwgr a rym gan ei fod yn hyrwyddo parhad ffiaidd caethwasiaeth. Roedd y bamffled ymhlith y rhai cyntaf yn y Gymraeg a oedd yn dadlau yn erbyn y fasnach gaethwasiaeth.[8] Cyhoeddwyd rhagor o bamffledi ganddo yn erbyn y fasnach gaethwasiaeth wedi iddo ymfudo i America yn 1794 a bu un ohonynt, a gyhoeddwyd yn 1798, sef ‘Letters on Liberty and Slavery’, yn llenyddiaeth bwysig yn arfogaeth dadleuon y Diddymwyr i gael gwared ar gaethwasiaeth.[7]

Roedd Iolo Morganwg (Edward Williams), un o gyfoedion radicalaidd Morgan John Rhys, yn cefnogi’r ymgyrch dros ddiddymu caethwasiaeth hefyd.

  • William Williams Pantycelyn (1717–1791) – Cyhoeddodd brotest yn erbyn y fasnach gaethweision yn rhan gyntaf Pantheologia yn 1762, a chyfieithodd hanes James Gronniosaw i'r Gymraeg yn 1779, sef y naratif gwrth-gaethwasaeth cyntaf yn yr iaith.[9][10]
  • Richard Price (1723–1791) – Anogodd yr Americanwyr i ddiddymu caethwasiaeth cyn gynted â phosibl yn ei waith dylanwadol Observations on the Importance of the American Revolution (1784), a chafodd ei bamffled ei chroesawu gan nifer o arweinwyr, gan gynnwys George Washington.[11][12]
  • William Dillwyn (1743–1824) – Daeth i Loegr yn 1774 i ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth, a bu'n un o sylfaenwyr allweddol y Gymdeithas Diddymu'r Fasnach Gaethweision (Society for Effecting the Abolition of the Slave Trade), ochr yn ochr â Granville Sharp, ar 22 Mai 1787, y corff a arweiniodd yr ymgyrch a lwyddodd i ddiddymu'r fasnach yn 1807.[15][16]
  • Iolo Morganwg (Edward Williams; 1747–1826) – Ysgrifennodd ei gerdd wrth-gaethwasiaeth gyntaf tua 1789, a gwrthododd werthu siwgr a gynhyrchwyd gan gaethweision yn ei siop yn y Bont-faen mewn potest; math o foicot.[17][18]
  • Thomas Coke (1747–1814) – Tystiodd yn gyhoeddus yn erbyn caethwasiaeth am y tro cyntaf ar 5 Ebrill 1785 yn Virginia, a rhyddhaodd rai o'i gaethweision o ganlyniad. Fodd bynnag, oherwydd gwrthwynebiad ffyrnig, gohiriwyd y rheol yn erbyn caethwasiaeth yng Nghynhadledd Baltimore ar 1 Mehefin 1785.[19][20]
  • David Samwell (1751–1798) – Ysgrifennodd The Negro Boy (baled heb ddyddiad penodol), sy'n cael ei hystyried yn un o'r cerddi Cymraeg mwyaf nodedig yn y traddodiad o farddoniaeth wrth-gaethwasiaeth. Yn anffodus nid oes dyddiad ar y daflen.[21][22]
  • Thomas Charles (1755–1814) – Roedd Charles yn perthyn i gylch o efengylwyr a oedd yn gysylltiedig â'r mudiad diddymu. Mae cofnodion yn dangos ei gefnogaeth i achosion dyngarol a gwrth-gaethwasiaeth trwy waith y Gymdeithas Feiblaidd.[23][24]
  • Morgan John Rhys (1760–1804) – Cyhoeddodd y faled Achwynion Dynion Duon tua 1791, sef y cyhoeddiad gwrth-gaethwasiaeth cyntaf yn Gymraeg yn ôl pob tebyg, a bu'n ymgyrchu'n ddi-flewyn-ar-dafod yn erbyn caethwasiaeth yn America hyd ei farwolaeth.[25][26]
  • John Elias (1774–1841) – Pregethodd yn angerddol yn erbyn caethwasiaeth, ac yn erbyn y fasnach honno yn Lerpwl, porthladd caethweision mwyaf gwledydd Prydain, yn ystod ei deithiau pregethu cynnar yn y 19g.[27][28]
  • William Williams o'r Wern (1781–1840) – Teithiodd gyda Samuel Roberts (S.R.) yn gynnar yn 1833 i annog deisebu, ac mae'n debyg mai ffrwyth y daith honno oedd y deisebau o Faldwyn a gyflwynwyd i Senedd Lloegr ar 27 Chwefror 1833, ychydig cyn pasio Deddf Dileu Caethwasiaeth yr haf hwnnw.[31][32]
  • Joseph Tregelles Price (1784–1854) – Price oedd prif ffigur a llywydd cyntaf Cymdeithas Gwrth-gaethwasiaeth Abertawe a Chastell-nedd o'i sefydlu yn 1822l trefnodd lawer o gyfarfodydd cyhoeddus a sicrhaodd nad oedd ei waith haearn yn cynhyrchu arfau i'r fasnach gaethweision.[33]
  • Robert Everett (1791–1875) – Ers rhifyn cyntaf Y Cenhadwr Americanaidd yn Ionawr 1840 (ac efallai'n gynharach), anogodd Gymry America i gefnogi ymgyrch diddymu. Cyhoeddodd gyfieithiad Cymraeg o Uncle Tom's Cabin yn 1853, ac fe'i derbyniwyd i Neuadd Enwogion Diddymu Cenedlaethol yr UDA yn 2022.[34][35]
  • Benjamin Price (1792–1854) – Cyfansoddodd "Cân y Negro Bach" ar 25 Medi 1830, a'i chyhoeddi yn Rhagfyr y flwyddyn honno. Daeth yn un o'r cerddi a'r alawon mwyaf poblogaidd yng Nghymru i hyrwyddo'r achos gwrth-gaethwasiaeth.[36]
  • Mary Knibb (tua 1798–1866) – Gweithiodd yn agos gyda'i gŵr, y cenhadwr William Knibb. Er nad oes dyddiad penodol ar gyfer ei "llais cyntaf", mae cofnodion yn dangos ei bod yn ymgyrchydd dygn yn Jamaica yn ystod y 1820au a'r 1830au, cyfnod allweddol a arweiniodd at ddiddymu caethwasiaeth yn 1834/1838.[37][38]
  • Jessie Donaldson (1799–1889) – Ymddengys iddi ymuno â gweithgarwch gwrth-gaethwasiaeth yn Abertawe tua'r 1830au. O 1854 ymlaen, ar ôl ymfudo, cadwodd dŷ diogel ar lan Afon Ohio i helpu ffoaduriaid du i gyrraedd rhyddid trwy'r "Underground Railroad".[39][40]
  • Samuel Roberts (S.R.) (1800–1885) – Cyhoeddodd gerdd yn Y Dysgedydd ym Mehefin 1829 yn erbyn fflangellu merched caeth yn Jamaica, ac yn Ebrill 1830 cyhoeddodd "Cwynion Yamba". Bu'n annog pob ardal yng Nghymru i ddeisebu'r Senedd, gan arwain ymgyrch eang.[41][42]
  • Sarah Hilditch (1807–diwedd y 19eg ganrif) – Anfonodd gyfraniadau i Fazaar Gwrth-gaethwasiaeth Boston am flynyddoedd cyn 1846 (y dyddiad cynharaf a gadarnhawyd yw ei llythyr ar 31 Hydref 1846), a chroesawodd Frederick Douglass, William Lloyd Garrison a George Thompson i Wrecsam y flwyddyn honno.[43][44]
  • Blanche Hilditch (1809–diwedd y 19eg ganrif) – Gyda'i chwaer Sarah, anfonodd gyfraniadau i Fazaar Boston cyn 1846, a chroesawodd Douglass a'i gyfeillion i'w chartref yn Wrecsam, gan chwarae rhan ganolog yn rhwydwaith gwrth-gaethwasiaeth Cymru.[45][46]
  • Henry Richard (1812–1888) – Cydnabuwyd ei waith gwrth-gaethwasiaeth gan y Gymdeithas Gwrth-gaethwasiaeth. Er nad oes dyddiad penodol, mae ei gyhoeddiad o Memoirs of Joseph Sturge (cofiant i un o'r Crynwyr gwrth-gaethwasiaeth mwyaf) yn 1852 yn dystiolaeth gadarn o'i ymrwymiad dwfn i'r achos yn ystod y 1840au a'r 1850au.[47][48]

Dylanwad llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]
[dolen farw]Olaudah Equiano

Ysgrifennodd cyn-gaethweision weithiau llenyddol hefyd a oedd yn dystiolaeth bwerus i gryfhau’r ddadl dros ddiddymu caethwasiaeth. Ymhlith y rhai hynny roedd Ottobah Cugoano ac Olaudah Equiano. Roedd Cuguano, a anwyd tua 1757 yn Ghana, wedi bod yn gaethwas yn India’r Gorllewin cyn iddo ffoi i Loegr yn 1772.[49] Yn Lloegr daeth yn ddyn rhydd, ac yno ysgrifennodd lyfr yn amlinellu’r dadleuon dros ddiddymu caethwasiaeth, sef ‘Thoughts and Sentiments on the Evil and Wicked Traffic of the Human Species’, a gyhoeddwyd yn 1787. Cyflwynodd ddadleuon crefyddol, moesol ac ariannol dros gael gwared ar y gyfundrefn ffiaidd.[50]

Cyn-gaethwas arall, a oedd hefyd yn un o gyfoedion ac yn ffrind i Cuguano, ac yn gefnogwr blaengar ac adnabyddus i'r achos dros ddiddymu caethwasiaeth, oedd Olaudah Equiano. Ysgrifennodd hanes ei fywyd fel caethwas yn ei hunangofiant, “The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano; or, Gustavus Vassa, the African, Written by Himself’ a gyhoeddwyd yn 1789. Ganwyd ef yn Nigeria tua 1745, a chafodd ei gipio a’i werthu fel caethwas, a mynd draw i India’r Gorllewin cyn prynu ei ryddid yn 1766. Dechreuodd fywyd newydd draw yn Lloegr a daeth yn un o ymgyrchwyr mwyaf brwdfrydig y Mudiad Diddymu ym Mhrydain.[51]

Roedd eu tystiolaeth a’u profiadau nhw yn bwysig iawn o ran tynnu sylw’r cyhoedd at ddioddefaint y caethweision ac at ffieidd-dra'r system.

Ymerodraeth Prydain

[golygu | golygu cod]
Poster[dolen farw] yn hysbysebu gwasanaeth capel arbennig i ddathlu Diddymu Caethwasiaeth ym 1838

Roedd ymgyrchwyr adnabyddus o blaid diddymu caethwasiaeth oddi mewn i Ymerodraeth Prydain, fel John Wesley, y pregethwr Methodistaidd, a Josiah Wedgwood, yn ogystal â grwpiau crefyddol, fel y Crynwyr. Defnyddiodd Wedgwood ei fuddiannau fel perchennog ffatrïoedd crochenwaith i gynhyrchu plac a ddaeth yn symbol pwerus i ddenu cyhoeddusrwydd yn erbyn caethwasiaeth.

Ymhlith y Diddymwyr eraill oedd yn siaradwyr huawdl ac yn ymgyrchwyr yn erbyn caethwasiaeth roedd Granville Sharp, Thomas Clarkson a William Wilberforce. Dadleuodd ac ysgrifennodd Sharp sawl gwaith dros hawliau caethweision - er enghraifft, achos Jonathan Strong (1767) a James Somerset (1772)[52] gan fynd â’u hachosion i’r llysoedd ac ennill yno. Llwyddwyd i sicrhau hawl James Somerset, sef caethwas o Virginia a gyrhaeddodd Lloegr, i gael bod yn rhydd unwaith y daeth i Brydain. Drwy hyn, enillodd caethweision eraill yn Lloegr yr hawl i fod yn rhydd.[53][54]

Cerrig milltir pwysig

[golygu | golygu cod]

Roedd Clarkson a Wilberforce yn ffrindiau ac yn aelodau pwysig o’r Mudiad Gwrth-gaethwasiaeth ym Mhrydain, mudiad a sefydlwyd ar ddiwedd y 18g.[55]

Casglai’r ddau wybodaeth fanwl am y fasnach gaethweision, y porthladdoedd oedd yn elwa, amodau byw'r caethweision ar yr hylciau mawr oedd yn eu cludo ar draws yr Iwerydd, cynlluniau a modelau o’r hylciau a hyd yn oed casglu offer a ddefnyddiwyd i gosbi caethweision. Wedyn, byddent yn cyflwyno'r wybodaeth honno gerbron y Senedd ar ran y mudiad. Cyflwynodd Wilberforce sawl mesur i geisio diddymu’r fasnach gaethweision, ac yn y diwedd pasiodd y Senedd ddeddf yn 1807 a oedd yn diddymu'r fasnach gaethweision, a oedd yn rhan o’r fasnach driongl ar draws Ymerodraeth Prydain. Golygai hyn ei bod yn anghyfreithlon prynu a gwerthu caethweision oddi mewn i'r ymerodraeth. Yn 1808 diddymwyd y fasnach gaethweision yn UDA ond parhaodd mewn llawer o’r taleithiau deheuol.[56]

Parhaodd y frwydr i ddiddymu caethwasiaeth wrth i wahanol fudiadau diddymu gynnal cyfarfodydd, cyhoeddi pamffledi a chyflwyno deisebau i’r Senedd. Olynwyd William Wilberforce, wedi iddo ymddeol o fywyd cyhoeddus yn 1825, gan Thomas Fowell Buxton fel prif ymgyrchydd y Gymdeithas dros Ddiddymu Caethwasiaeth ym Mhrydain. Er ei fod mewn iechyd gwael, gwyddai Wilberforce cyn iddo farw fod Llywodraeth Prydain wedi pasio Deddf Rhyddfreinio 1833 a oedd yn gwarantu bod caethweision oddi mewn i drefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig yn rhydd. Rhoddai telerau’r ddeddf yr hawl i gyn-berchnogion caethweision oddi mewn i'r Ymerodraeth Brydeinig hawlio iawndal. Ni chafodd caethweision ym mhob rhan o’r Ymerodraeth eu rhyddhau (er enghraifft, yn Sri Lanca) a bu’n rhaid aros tan 1838 i gaethwasiaeth gael ei ddiddymu'n gyfan gwbl ym mhob rhan o’r Ymerodraeth.[57][58]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "WJEC Educational Resources Website". resources.wjec.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-04.
  2. ↑ "Frederick Douglass | Biography, Life, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  3. ↑ "Sojourner Truth". Biography (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  4. ↑ "Harriet Beecher Stowe | Biography, Books, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  5. ↑ James, E. Wyn. "'Cymry, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America'". Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  6. ↑ "Resource WJEC Educational Resources Website". resources.wjec.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-04.
  7. 1 2 Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  8. ↑ Cof Cenedl IX, Gol.Geraint H. Jenkins, ‘Cymro, Gelynol i bob Gorthrech’, Hywel M. Davies, tud. 71; E. Wyn James, ‘Morgan John Rhys a Chaethwasiaeth Americanaidd’, yn Canu Caeth: Y Cymry a’r Affro-Americaniaid, gol. Daniel G. Williams (Llandysul: Gwasg Gomer, 2010), tt.2-25.
  9. ↑ Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  10. ↑ Black History Month UK; adalwyd 21 Hydref 2026.
  11. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  12. ↑ Stanford Encyclopedia of Philosophy; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  13. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  14. ↑ JSTOR; adalwyd 21 Hydref 2026.
  15. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  16. ↑ Oxford Dictionary of National Biography; adalwyd 21 Hydref 2026.
  17. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  18. ↑ Voice Cymru; adalwyd 21 Hydref 2026.
  19. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  20. ↑ General Commission on Archives and History (UMC); [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  21. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  22. ↑ Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  23. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  24. ↑ Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  25. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  26. ↑ Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  27. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  28. ↑ Voice Cymru; adalwyd 21 Hydref 2026.
  29. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  30. ↑ [dolen farw]Cyngor Abertawe; adalwyd 21 Hydref 2026.
  31. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  32. ↑ Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  33. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  34. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  35. ↑ Nation.Cymru; adalwyd 21 Hydref 2026.
  36. ↑ Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  37. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  38. ↑ The Victorian Web; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  39. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  40. ↑ Wales Online; adalwyd 21 Hydref 2026.
  41. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  42. ↑ Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  43. ↑ Slavery & Abolition (Taylor & Francis); adalwyd 21 Hydref 2026.
  44. ↑ Black Skin, Blue Books (Gwasg Prifysgol Cymru); adalwyd 21 Hydref 2026.
  45. ↑ Slavery & Abolition (Taylor & Francis); adalwyd 21 Hydref 2026.
  46. ↑ Morning Star; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  47. ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  48. ↑ Discover Ceredigion; [dolen farw] adalwyd 21 Hydref 2026.
  49. ↑ "Ottobah Cugoano (c. 1757– after 1791) active abolitionist". The British Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-08. Cyrchwyd 2020-09-04.
  50. ↑ "Ottobah Cugoano Facts". biography.yourdictionary.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-21. Cyrchwyd 2020-09-04.
  51. ↑ "Olaudah Equiano | Biography & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  52. ↑ "The National Archives | Exhibitions & Learning online | Black presence | Rights". www.nationalarchives.gov.uk. Cyrchwyd 2020-09-04.
  53. ↑ "BBC - History - Historic Figures: Granville Sharp (1735-1813)". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  54. ↑ "Granville Sharp | English scholar and philanthropist". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.
  55. ↑ "William Wilberforce and abolition | Revealing Histories". revealinghistories.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-04.
  56. ↑ Editors, History com. "Congress abolishes the African slave trade". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  57. ↑ "William Wilberforce | Hull History Centre". www.hullhistorycentre.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-04.
  58. ↑ "The History Press | The Slavery Abolition Act of 1833". www.thehistorypress.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-04.