Asid ffolig
| Enghraifft o: | dosbarth o endidau cemegol gyda chymwysiadau neu swyddogaethau tebyg |
|---|---|
| Math | fitamin B, folic acids |
| Dynodwyr | |
| Thesawrws y BNCF | 14063 |
| UMLS CUI | C0016410 |
| Quora | Folic-acid |
Fitamin o deulu fitamin B yw asid ffolig neu fitamin B9 (weithiau hefyd fitamin M a ffolasin). Fel pob fitamin, mae ei angen ar y corff er mwyn gweithio'n iawn. Fel gweddill teulu fitamin B gall asid ffolig hydoddi mewn dŵr. Mae'r gair "ffolig" yn tarddu o'r gair Lladin am ddeilen (folium) gan fod dail gwyrdd yn llawn ohono.
Mae llawer o asid ffolig yn y bwydydd canlynol: sbigoglys, letis, ffa wedi'u sychu, grawnfwydydd, a hadau (e.e. blodau haul). Mae iau (afu) hefyd yn cynnwys llawer ohono, yn ogystal â burum y pobydd, Marmite a Vegemite. Mae creision ŷd a'i debyg yn cynnwys rhwng 25% a 100% o'r hyn sydd ei angen.
Hanes
[golygu | golygu cod]Darganfuwyd asid ffolig gan Lucy Wills yn 1933, pan oedd yn ymchwilio i mewn i anghenion merched beichiog, a cheisio atal anemia. Burum y pobydd ddefnyddiodd hi, gan wedyn, sylweddoli mai'r asid ffolig a oedd yn gwneud y gwaith. Llwyddodd i dynnu'r asid allan o ddail sbigoglys yn 1941. Crewyd asid ffolig artiffisial yn 1946 gan Yellapragada Subbarao.
